22 Tachwedd 2017
Gêm Codi Arian

Cefnogwyr Cymru v Cefnogwyr Lloegr
? Hawliau Brolio (a chodi arian at Gôl)
?️ Dydd Sul 26ain o Dachwedd
? 17:00 GMT
? Parc Penydarren, Merthyr Tudful
MYNEDIAD: Rhoddion i Gôl
Bydd grwp o gefnogwyr Cymru yn gwynebu’r hen elyn ddydd Sul er mwyn codi arian at Gôl. Dewch lan i’r cymoedd am 5 o’r gloch i gefnogi’r bois a chodi arian at achos da.
Os nad allech fynychu, gallech wastad gyfrannu yma: justgiving.com/gol
Diolch yn fawr i Ashton Adams am drefnu hwn ac am helpu godi proffil Gôl.
30 Hydref 2017
PARTI CYN-GÊM: Fel yr arfer, diolch i ffrind triw Gôl, Leigh James, byddwn yn cynnal parti codi arian cyn y gêm unwaith yn rhagor ym Mharis. Dewch i ymuno â ni er mwyn twymo lan at y gêm fawr a chodi arian at achos da.
Rydym yn brysur yn cadarnhau ein hymweliadau ym Mharis ond bydd pob ceiniog sy’n cael ei godi yn mynd at helpu plant mewn angen.
Ymunwch â ni o 16h ym Mar Chwaraeon Belushi’s, Gare du Nord, Paris – ‘mond munudau i ffwrdd o’r trên i Stade de France!
Os nad ydych yn medru dod ond hoffech gyfrannu at yr eluse, gallwch wneud hynny yma: www.justgiving.com/gol.

25 Ebrill 2017
Parti Dydd y Gem
Ry’n ni’n falch i gyhoeddi y byddwn yn cynnal parti ar ddydd y gêm ym Melgrad o 1yh yn ardal poblogaidd Savamala. Bar KC Grad.
Mae’r bar ‘mond 10mun ar droed o brif stryd Belgrad a 5 mun o’r orsaf drenau lle mae trafnidiaeth i’r grownd ar gael.
Bydd mynediad AM DDIM ond ry’n ni’n eich annog i roi arian drwy https://www.justgiving.com/fundrai
Mae gardd gwrw enfawr a gwagle digon o faint tu fewn i’r bar ac rydym am sicrhau ‘playlist’ anhygoel o hoff ganeuon cefnogwyr Cymru – croeso i chi awgrymu cân i ni roi ar y restr. Eto, ry’n ni’n gwerthfawrogi rhodd ariannol.Byddwn ni hefyd yn cynnal raffl gyda gwobr o GRYS CYMRU WEDI’I ARWYDDO.

3 Mawrth 2017
Digwyddiad Cyntaf 2017!!
Dydd Gwener 3ydd o Fawrth 7yh yng Nghanolfannau Gôl.
Dewch i brofi’ch gwybodaeth am bêl-droed yng nghysgod ein stadiwm cenedlaethol tra hefyd yn helpu ni i godi arian hanfodol ar gyfer ein hymweliadau i Iwerddon a Serbia! Dim ond £3 y pen.
Diolch i bois Podcast Peldroed am gynnig i gynnal y noson yma!

