Newyddion 2016

16 Tachwedd 2016

Yn anffodus, fu’n rhaid i ni ffarwelio â’n ffrindiau o Serbia bore ddoe, er gwaetha’ protestiadau Ahmet a gynnigodd swap gyda’n cynhrychiolwr, Chester Hartley.

Dros eu 6 diwrnod yma, ymwelodd y 4 plentyn amddifad a’r 2 ofalwr â nifer helaeth o safleoedd diwyllianol a chymryd rhan mewn digwyddidau hamddenol.

Fe ddiolchodd Bojana, un o’r gofalwyr, yn arbennig am y croeso cynnes iddyn nhw dderbyn yng Nghymru, gan obeithio y bydd modd iddyn nhw ail-dalu’r ffafr flwyddyn nesaf.

Tra roedd pawb wedi’u syfrdanu â Llundain, Castell Caerffili oedd hoff le’r gofalwyr, gyda’r plant dal wedi’u mopio ers cwrdd â Bale a’r criw ddydd Gwener d’wetha.

Diolch i bawb am eich cefnogaeth a helpodd i wireddu’r daith yma. Rydym yn parhau i godi arian at ein calendr lawn flwyddyn nesa.

31 Hydref 2016

Wrth i ni edrych ymlaen at yr egwyl rhyngwladol nesa’, gadewch i ni edrych yn ôl ar ein gwaith o gwmpas gêm Cymru yn erbyn Georgia:

Daeth Gôl! â dau berson ifanc o Georgia at y gêm yng Nghaerdydd. Fe dreuliodd Give Mukbaniani, 14, a Baaka Gibradze, 15, wythnos yn ymweld â de Cymru a Llundain cyn arwain y timau i’r cae yn y gêm fawr.

Mae Give a Baaka yn dod o dref Kutaisi, sydd wedi ei efeillio â Chasnewydd. Wedi siwrne hir i Gymru, eu profiad cyntaf yn y wlad oedd lletygarwch CPD Sir Casnewydd. Y diwrnod wedyn, fe ymwelon nhw â’r ddinas gan gwrdd â Maer Casnewydd. Cawson nhw gyfle i ymweld â’r Felodrom a gwesty’r Celtic Manor cyn bowlio deg gyda’r hwyr. Fe aeth Gôl! â nhw, hefyd, i Ynys y Barri ac i weld eu tîm cenedlaethol yn hyfforddi cyn y gêm.

Mae Give a Baaka yn chwaraewyr brwd ac roedden nhw wedi ymfalchio wrth arwain eu gwlad i’r maes.

Rydym yn dod â 4 o blant amddifaid draw o Felgrad ar gyfer ein gêm nesaf ni yn erbyn Serbia ac rydym yn dibynnu ar eich cyfraniadau hael chi i alluogi hyn i ddigwydd.

28 Gorffennaf 2016

Rydym yn brysur yn paratoi at y gemau rhagbrofol nesaf!

Bydd Gôl yn dod â phlant amddifaid o Kutaisi, Georgia, suds wedi ei efeillio â Chasnewydd, a Belgrad, Serbia, at gyfer eu gemau nhw yng Nghaerdydd yn yr Hydref.

 

Heddiw, fe ymwelodd un o’n cynhrychiolwyr lleol ni â Chartref Moše Pijade er mwyn cynnal cwis ar Gymru ac Ewro 2016 i ddewis y plant i deithio.

Trwy gydol y bencampwriaeth, bu’r plant yn dysgu am Gymru ac yn gwylio’n gemau i gyd. Yn wir, fe sgoriodd dros 80% o’r plant 18/20 neu’n well yn y rownd am Gymru!

Rhaid cymeradwyo’r 4 buddugol: Milica, Andjela, Ahmet ac Elvis. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu croesawi i Gymru.

 

16 Mai 2016

Diolch i bawb a helpodd sicrhau fod ein twrnament Ewro 2016 ddoe yng Nghaerdydd yn llwydiannus. Diolch yn enwedig i Game On Wales am eu help yn trefnu’r twrnament, ein noddwyr 10 Feet Tall a phawb a gynnigodd rhywbeth i’r raffl. Rydym wedi llwyddo i godi dros £900 at blant difreintiedig ac mewn angen.

 

Llongyfarchiadau i Sporting Hamzah a gurodd Evan’s Belters (byn y ffeinal. Enillwyd crys Cymru wedi’i arwyddo gan Frances Foot a’r bêl wedi’i arwyddo gan dîm Caerdydd gan Jim Davis.