21 Medi 2017
Bydd Gôl yn fyw ar S4C heno rhwng 7 – 7.30yh, yn sôn am ein taith i Georgia sy’n cychwyn yfory. Ry’n ni wir wedi’n syfrdannu gan eich haelioni chi. Yn ogystal â’r noddwyr, mae’n rhaid diolch i’r unigolion sydd wedi rhoi llond llwyth o nwyddau i ni.
Felly diolch i chi: Michael Charlish, Elin Thomas, Pontprennau Community Church, Helen Watson, Evan Williams, Ashlie Lewis, Tania Clutterbuck, Angela and Keith Sims, Daniela Mahapatra, ac unrhywun arall sydd wedi cyfannu er mwyn sicrhau fod y daith yma am fod yn llwyddiant.
Mae’r nwyddau yma ar ben y gluniaduron ac offer helpu plant anabl y byddwn yn prynnu yn ystod ein taith.
Gallech chi ddal ein noddi ni drwy: www.justgiving.com/gol
18 Medi 2017
CYFRI LAWR Y DYDDIAU! Dim ond 4 diwrnod sydd i fynd nes i gynrychiolwyr Gôl! gychwyn ar eu taith 2,500 milltir i Georgia.
Mae gan Gôl! berthynas hanesyddol gyda’r wlad, gan fod 27 o gefnogwyr Cymru wedi ymweld â dinas Kutaisi, sydd wedi’i ei efeillio â Chasnewydd, ar y ffordd i’n gêm ryngwladol ni yn Azerbaijan yn 2009, gan roi ein ceir, arian a nwyddau i helpu elusennau plant yn y ddinas.

Tim Hartley bydd un o’r cynrychiolwyr a fydd yn dychwelyd i Kutaisi. Dywedodd ef, “Diolch i bawb sydd wedi codi a chynnig arian er mwyn gwneud y daith yma yn llwyddiant. Mae Gôl! yn ceisio gwneud ychydig ym mhob man i helpu’r rheini llai ffodus ni, ac i godi proffil cefnogwyr pêl-droed ledled Ewrop. Mae’r daith am fod yn un hir ond ry’n ni’n edrych ymlaen i ail-ymweld â phobl Kutaisi.
Yn ystod yr ymweliad i Kutaisi, rhwng 1af a 4ydd o Hydref, bydd cefnogwyr Cymru yn ymweld â chanolfan dydd i bobl ifanc, sy’n hollol ddibynnol ar wirfoddolwyr, gan gynnig cit diagnostig awtistiaeth iddyn nhw. Byddwn ni hefyd yn helpu paentio Canolfan y Bont, yn ogystal ag ymweld â phrosiectau gwahanol i blant ar draws y ddinas, gan roi nwyddau chwaraeon ac addysgiadol i’w helpu. Yn ogystal â hyn oll, byddwn hefyd yn cefnogi cartref plant amddifaid yn Nhibilisi cyn y gêm.
Ar ein ffordd i Georgia, byddwn ni’n croesi Wcrain, gan ymweld â’n ffrindiau yn ninas Lviv. Fel Kutaisi, mae gan Gôl! hanes lliwgar yn Lviv, diolch i dwrnament blynyddol Eurofan a chynhelir yn y ddinas. Yna, rydym am ymweld ag ysgol fwrddio i blant amddifaid ac o deuluoedd incwm-isel, gan roi gluniadur a nwyddau chwaraeon ac addysgiadol iddyn nhw.
Mae’r ceir wedi eu noddi gan Macsen Financial Services a Wibl. Dyma’r drydedd tro i Macsen gefnogi Gôl! Dywedodd eu cyfarwyddwr, Gweirydd ap Gwyndaf, “Mae hi’n wych cael gallu cefnogi Gôl unwaith yn rhagor. Mae cefnogwyr Cymru yn gwneud gwaith arbennig gyda plant llai ffodus; Maent yn gynrychiolwyr da iawn dros Gymru. Ry’n ni’n falch cael bod yn rhan o’r fenter ac antur yma.”
Cofiwch, gallech wastad gyfrannu at Gôl drwy: www.justgiving.com/gol.
7 Mehefin 2017
Ry’n ni wedi bod yn brysur tu hwnt yn paratoi at ein gweithgareddau y penwythnos yma cyn gêm fawr dydd Sul.
Rydym yn barod wedi prynnu 12 o docynnau i’r gêm ar gyfer 10 o blant amddifaid a 2 ofalwr o gartrefi Drinke Pavlovića, Zvečanska, Moše Pijada a Zmaja.
Byddwn yn ymweld â thri o’r pedwar cartref ddydd Llun 12fed o Fehefin gan roi nwyddau gwerth hyd at €1000, gan gynnwys bwrdd tenis bwrdd, offer chwaraeon ac arian i adnewyddu ardal ymlacio awyr agored un o’r cartrefi. Mae creso i unrhywun, felly plîs cysylltwch â ni.
Rydym hefyd wedi derbyn llond bag mawr o ffrisbis gan bois Blazing To Serbia o gymoedd de Cymru, sydd yn Serbia ar y foment i helpu sefydlu tîm rygbi yn Ruma, ychydig i’r gogledd o Felgrad. Fe gwrddon nhw ag un o’m cynrychiolwyr ym mar KC Grad lle byddwn yn cynnal ein parti cyn y gêm ddydd Sul. Mae popeth wedi cadarnhau ac rydym yn edrych ymlaen yn arw: https://www.facebook.com/events/278409005903643/?fref=ts
Diolch yn fawr i llysgenhadaeth Prydain am ein croesawu heddiw ynghyd â Blazing to Serbia ac am helpu creu cyswllt rhyngom ni a’r cartrefi. Fe soniodd y llysgenad Denis Keefe am ein gwaith yn ei araith i nodi Caerdydd yn dal ffeinal Cynhrair y Pencawmpwyr.
Rydym yn dibynnu ar eich cyfraniadau chi i wneud hyn oll yn bosib, felly plis rhowch yn hael: https://www.justgiving.com/fundrai…/7marathons7daysOffasdyke
9 Mai 2017
Serbia: Ry’n ni’n falch iawn fod safle newyddion ‘Mondo’ wedi penderfynnu i adrodd ein stori am yr ail dro, gan sôn am ein cynlluniau fis nesa’.
http://mondo.rs/…/Fud…/Velsani-pomazu-deci-iz-Zvecanske.html
Rydym yn dibynnu ar eich rhoddion hael chi i wneud hyn yn bosib felly plis helpwch drwy: https://www.justgiving.com/fundrai
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n PARTI cyn y gêm o 1yh ar ddydd y gêm. Mae’r bar wedi’i leoli yng nghanol Belgrad yn agos at drafnidiaeth i’r grownd felly does dim esgus i beidio dod. Mae mynediad am ddim ond rydym yn gwerthfawrogi rhodd i’r linc uchod. Ymunwch yma: https://www.facebook.com/events/278409005903643/
6 Mawrth 2017
Diolch yn fawr i bawb a helpodd sicrhau fod nos Wener yn gymaint o lwyddiant. Fe godom ni dros £400 sydd bron yn ddigon i ni roi i Hosbis Laura Lynn yn Nulun ddiwedd fis yma.

Diolch arbennig i Podcast Pel-droed am drefnu noson mor wych, i Gôl Football Centre, Cardiff am adael i ni ddefnyddio’r bar am ddim ac i bawb a roddodd gwobrau i’r raffl.
Rhaid i ni longyfarch y tim buddugol haeddianol iawn (llun isod) a ddaeth 26 pwynt o flaen unrhywun arall. Anhygoel!
Ry’n ni dal yn ddibynnol ar eich rhoddion chi i barhau ‘da’n gwaith da: www.justgiving.com/gol.
28 Chwefror 2017
Podlediad: Gwrandewch ar un o’n ymddiriedolwyr yn trafod y gwaith da ry’n ni’n ei wneud. Diolch i Podcast Pel-droed am roi’r amser i ni siarad.
www.podcastpeldroed.cymru/podcast-49-golcymru/
15 Chwefror 2017
Tbilisi Neu’r Tip!
Bydd grwp o gefnogwyr Cymru yn gyrru i Georgia yn yr Hydref ar gyfer y gêm ragbrofol yno, er mwyn codi arian at Gôl. Mae 3 car wedi ymrwymo yn barod i wneud y daith 2500 o filltiroedd i Kutaisi, sydd wedi ei efeillio â Chasnewydd. Byddwn yn rhoi citiau pêl-droed a nwyddau eraill ac, os y’n ni’n cyrraedd yno yn ddiogel, bydd y ceir hefyd yn mynd at achosion da yn Georgia.

Cawsom groeso cynnes ar ein hymweliad yn 2009 ar y ffordd i Azerbaijan a byddwn yn ail-ymweld ag ysgolion gyhoeddus 1, 3 (ar gyfer plant amddifaid) a 44 (ysgol gerddorol). Lluniau isod.
Os hoffech fod yn rhan o’r daith neu os allech helpu yn ariannol, plîs cysylltwch â ni. Bydd unrhyw fusnes sy’n cynnig arian yn cael eu logo ar y car ac yn cael ei crybwyll ym mhob datganiad i’r wasg.
Gallech wastad gyfrannu drwy: www.justgiving.com/gol
