Gôl Cymru yn Slofacia – Mehfin 2024
Diwrnod ar ôl ein gêm yn erbyn Slofacia ymwelon â Sanatoriwm Plant yn ardal Trnava. Mae’r ganolfan yn cynnig cymorth i blant rhwng 3 a 6 oed sy’n dioddef gyda phroblemau corfforol gyda rhodd o €500.
Cafwyd groeso mawr gan Gyfarwyddwraig y Ganolfan, Mrs. Zvonarova, a ddywedodd, “Mae’r rhodd ariannol yr un mor bwysig i ni a’r ffaith eich bod yn dangos i’r plant eich bod ch’n meddwl amdanynt. Rych chi’n rhoi gobaith iddynt y byddan nhw’n gallu teithio fel chi yn y dyfodol, ac mae hynny’n werth y byd.”
Yn ôl Thomas Griffiths, un o gynrychiolwyr Gôl Cymru, “Roeddem yn falch cael cyfle i weld y cyfleusterau a’r gofal mae’r plant yn ei dderbyn. Roedd y rhai bach i gyd yn gwenu sy’n dyst i waith caled y staff ymroddedig yno. Gobeithio y bydd ein cyfraniad yn eu cynothwyo i barhau gyda’u gwaith gwych.”
