Yn dilyn gêm gyfartal Cymru neithiwr, fe ymwelodd Gôl â chartref Rainman’s ar gyfer pobl ag awtistiaeth heddiw, gan roi €500 er mwyn helpu datblygu cyfleusterau celf a chrefft y ganolfan.
Ymwelon ni â’r cartref am y tro cyntaf pan chwaraeodd Cymru yn Fienna yn 2005, wrth i ni roi arian er mwyn adeiladu Ystafell Synhwyrau. Cawsom groeso cynnes gan Anton, ei gyd-weithwyr a’r mynywchwyr unwaith yn rhagor heddiw, gydag arddangosfa arbennig ar Gymru a phêl-droed.

Rydym yn dibynnu ar eich rhoddion hael chi i wneud hyn oll yn bosib, felly plîs helpwch ar: www.justgiving.com/gol
