I Baku a Nôl
Efallai bod yr Ewros wedi eu gohirio ond does dim all ddal cefnogwyr Cymru rhag teithio i Baku. Mae elusen y cefnogwyr, Gôl Cymru, yn cerdded a rhedeg 11,291 cilomedr, y pellter y bydden nhw wedi ei deithio o Gaerdydd i Baku, ymlaen i Rufain ac yn ôl i Baku ar gyfer gemau cyntaf ein tîm cenedlaethol. Mae’r arian y maen nhw’n codi yn mynd achosion da i blant ar draws Cymru.
Mae Gôl Cymru wedi clustnodi £5,000 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae cefnogwyr yn cynnig rhedeg neu gerdded faint bynnag maen nhw moen ac yna cael eu teulu a’u ffrindiau i noddi nhw. Mae disgwyl iddyn nhw nodi faint maen nhw wedi ei wneud yn erbyn y cyfanswm enfawr i sicrhau ein bod yn cyrraedd Baku – a dychwelyd. Mae rhai yn loncwyr o fri ond eraill ond megis dechrau.
Dywed Helen Lucitt o Gôl Cymru, ‘Cyn mis Ebrill o’n i’n ffaelu rhedeg am ddwy funud. Dwi ddim wedi gwneud dim fel hyn o’r blaen ond rwy bellach y rhedeg 5 cilomedr y dydd er mwyn Gôl Cymru. Er bo ni ddim yn gallu dilyn Cymru oddi cartref dyw hynna ddim yn rheswm i ni beidio â pharhau â’r gwaith da o godi arian. Yn ystod y cyfnod amsicr yma, mae’n grêt ein bod ni’n gallu helpu’r plant mewn unrhyw ffordd bosib’
Mae Gôl Cymru eisoes wedi helpu 5 o elusennau ledled Cymru:
Mae Apêl Cash for Kids Radio City Appeal yn ceisio sicrhau nad yw teuluoedd anghennus yn colli mas ar bethau elfennol fel bwyd, clytiau a llaeth i’r babi. Yn ôl
Laura Charlton o Radio City, ‘Mae’ch rhodd chi wedi ein galluogi i gefnogi 20 o deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro yn Sir y Fflint. Mae rhai o’r rhain wedi dioddef trais yn y cartref ac o’r herwydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae’r rhodd yma’n golygu nad yn nhw’n teimlo mor ynysig gan wybod eu bod yn rhan o gymuned sy’n becso.’
Yn Ne Cymru mae Gôl Cymru wedi helpu The Play Yard i barhau i gynnig ciniawau am ddim i’r gymuned am wythnos gyfan sy’n golygu o leiaf 1,000 o brydau i blant ar draws Rhondda Cynon Taff. Gwnaed cyfraniadau hefyd i Tŷ Hafan, Maggie’s a chynllun ieuenctid yng Nghwmbran. Mae Tŷ Hafan yn cynnig cysur, gofal a chymorth i blant sy’n ddifrifol sâl, pobl ifanc a’u teuluoedd yn yr hosbis, yn y gymuned ac yn eu carterefi fel bod modd iddyn nhw mwynhau yr amser prin sydd gyda nhw ar ôl.
Mae gan Maggie’s dwy ganolfan yn Abertawe a Chaerdydd sy’n galluogi teuluoedd sy’n wynebu cancr i rannu eu profiadau gydag phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw, o gwmpas bwrdd y gegin neu mewn cymuned arlein. Yn ôl un o gewri Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis, sydd hefyd yn lysgennad y clwb i Maggie’s, ‘Ar ran y tîm ga’i ddweud diolch o’r galon i Gôl Cymru am eu haelioni fydd yn caniatau i Maggie’s brynu llyfrau i’r plant sy’n ymweld a’r ganolfan lle mae eu teuluoedd yn dioddef o gancr. Rydym yn gwethfawrogi hyn yn fawr iawn.’

Ffotograff: Maggie’s
Yng Ngwent, mae Gôl Cymru yn cefnogi Canolfan Pobl Ifanc Cwmbran (CCYP). Dywed ôl cyn-amddiffynwr Cymru, Danny Gabbidon, sy’n weithgar gyda CCYP, ‘Diolch yn fawr i chi Gôl. Dros y 10 wythnos diwethaf ryn ni wedi dysgu llawer o bethau am edrych ar ôl ein hunain a’n ffrindiau ond hefyd am estyn allan i bobl eraill. Dyna’n union beth mae Gôl wedi gwneud. Diolch yn fawr i chi.’
Fideo: Danny Gabbidon
Mae’r cefnogwyr eisoes wedi casglu dros £1,000. Mae modd cyfrannu fan hyn – www.justgiving.com/fundraising/cardiffbakurome Yn ôl Kevin Davies o Gôl Cymru, ‘Mae’n hyfryd i weld sut y mae’r Wal Goch wedi ymateb unwaith yn rhagor i sialens Baku a Nôl. Mae’n cefnogwyr yn codi proffil a statws ein cenedl lle bynnag y maen nhw’n mynd. Rydym yn falch iawn o’r gefnogaeth ryn ni wedi derbyn, a dwi hyd yn oed wedi dechrau cerdded fy hun! Diolch yn fawr i bawb sy’n rhan o’r daith yma.’
