Lyon Gorffennaf 2016
Noddir Paraffin, plentyn amddifad 13 mlwydd oed o Lesotho, gan Gôl er mwyn iddo allu teithio i Wyl Pêl-droed Stryd y Byd yn Lyon – twrnament rhwng 500 o blant mewn angen o bob cwr y byd.

Teithiodd Paraffin ar awyren am y tro cyntaf wythnos diwethaf a neithiwr fe aeth i’w gêm bêl-droed gyntaf – Cymru yn y semi!
Diolch i gefnogwyr Cymru sydd wedi ein galluogi i roi’r cyfle yma i Paraffin. Cofiwch, y gallech chi helpu ar: www.justgiving.com/france16
Calais Mehefin 2016
Ymwelodd Gôl â warws elusen Care4Calais ar ein ffordd i’r gêm fawr yn Lille, gyda rhoddion o gitiau pêl-droed a dillad i blant ifanc. Cawsom ein tywys o gwmpas y cyfleuster gan Karen Dexter, gwilfoddolwraig gyda’r elusen a clywsom am waith bwysig y mudiad. Maent yn bwriadu defnyddio’r citiau am y tro cyntaf y penwythnos yma.

Mae’r elusen wastad yn edrych am gymorth, felly cysylltwch â nhw yn uniongyrchol. Cofiwch, gallech ein helpu ni drwy: www.justgiving.com/france16
Calais Mehefin 2016
Fe fydd grwp o gynrychiolwyr Gôl yn rhoi citiau ac offer pêl-droed i gamp ffoaduriad yng Nghalais yfory, ar eu ffordd i’r gêm yn Lille. Mae Gôl wedi cysylltu ag elusen Care4Calais sydd wedi awgrymu beth fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Gôl dros y blynyddoedd. Heb eich help, byddai dim modd i roi gymaint. Diolch, hefyd, i bawb sydd wedi sicrhau ein bod yn gallu ymweld â’r camp ‘fory- yn enwedig gan ystyried yr hoe fer rhwng gemau.
Mae dal lot o waith o’n blaenau ac mae pob ceiniog yn helpu. Rhowch yn hael drwy: www.justgiving.com/france16
Lens Mehefin 2016
Er gwaetha’ siomedigaeth ddoe, fe ymwelodd cynrychiolwyr Gôl â Ward Blant Ysbytu Lens heddiw. Cawsom ein tywys o gwmpas yr uned gan Pauline Caron a rhoddom anrhegion o Gymru i’r plant. Yn y lluniau isod mae Lilly, oed 4, sy’n gwella ar ôl apendicitis; Nasim, 11; ac Olivia, 12. Roedd Nasim yn bendant mae Bale oedd ‘chwaraewr gorau’r twrnament!’

Hefyd, fe roddom €500 i’r ysbytu er mwyn helpu datblugu eu prosiect ‘Triniaeth drwy Chwarae.’
Diolch i Llysgenhadaeth Prydain yn Ffrainc am drefnu’r ymweliad yma.
Bordeaux Mehefin 2016
Mae Gôl wedi trefnu i Tom Morris, 13 oed, a’i Fam Claire, o Bontllanffraith ddod i’r gêm heddiw yn Bordeaux. Sefydlwyd bod ‘Malignant Embryonal Rhabdomyoscarcoma,’ cancr ym meinwe meddal y corff, gan Tom yn Hydref 2014. Mae bellach wedi cwblhau cwrs 8 mis o chemotherapy, ond fe greodd hwn cyflwr ‘Drop Foot’ iddo, sy’n effeitho ar ei nerfau a’r cyhyrau yn ei ddwylo a’i draed.
Gorffennodd Tom ei driniaeth ym Mai 2015 ond mae dal yn mynychu’r ysbyty yn reolaidd i gadw golwg ar ei gyflwr.
Diolch i bawb sydd wedi helpu Gôl i drefnu’r taith yma. Cofiwch y gallech wastad ein helpu drwy: www.justgiving.com/france16
Sweden Mai 2016
Ymwelodd Gôl Cymru ag Ysbyty Plant Astrid Lindgren un Stockholm bore ‘ma, gan roi £750 er mwyn prynnu offer angenrheidiol ar gyfer eu Hystafell Synhwyro yn yr Uned Therapi Chwarae. Cafodd Neil Dymock ei arwain o gwmpas y lleoliad gan y therapyddion Tobias a Lena. Gwelwch isod merch dwy flwydd oes, Edda, yn ymarfer yn yr ysbyty wrth iddi baratoi am ei breichiadau.
Meddai Neil wedi’r ymweliad, “Fe wyliodd bob un o’r plant i mi gwrdd â nhw ein gêm ni ddoe a dywedon nhw eu bod yn hoffi Cymru. Maen nhw’n bwriadu ein cefnogi ddydd Sadwrn nesa’ yn erbyn Slofacia. Roedd pawb yn cytuno mai Zlatan a Bale oedd eu hoff chwaraewyr!”
Many thanks to everyone who has helped support Gôl Cymru. If you would like to make a donation, you can do so online at: www.justgiving.com/france16
