Rydym yn brysur yn paratoi at y gemau rhagbrofol nesaf!
Bydd Gôl yn dod â phlant amddifaid o Kutaisi, Georgia, suds wedi ei efeillio â Chasnewydd, a Belgrad, Serbia, at gyfer eu gemau nhw yng Nghaerdydd yn yr Hydref.
Heddiw, fe ymwelodd un o’n cynhrychiolwyr lleol ni â Chartref Moše Pijade er mwyn cynnal cwis ar Gymru ac Ewro 2016 i ddewis y plant i deithio.
Trwy gydol y bencampwriaeth, bu’r plant yn dysgu am Gymru ac yn gwylio’n gemau i gyd. Yn wir, fe sgoriodd dros 80% o’r plant 18/20 neu’n well yn y rownd am Gymru!
Rhaid cymeradwyo’r 4 buddugol: Milica, Andjela, Ahmet ac Elvis. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu croesawi i Gymru.
Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi i alluogi hyn ddigwydd, felly helpwch drwy: www.justgiving.com/WalesSerbia
