Wrth i ni edrych ymlaen at yr egwyl rhyngwladol nesa’, gadewch i ni edrych yn ôl ar ein gwaith o gwmpas gêm Cymru yn erbyn Georgia:

Daeth Gôl! â dau berson ifanc o Georgia at y gêm yng Nghaerdydd. Fe dreuliodd Give Mukbaniani, 14, a Baaka Gibradze, 15, wythnos yn ymweld â de Cymru a Llundain cyn arwain y timau i’r cae yn y gêm fawr.
Mae Give a Baaka yn dod o dref Kutaisi, sydd wedi ei efeillio â Chasnewydd. Wedi siwrne hir i Gymru, eu profiad cyntaf yn y wlad oedd lletygarwch CPD Sir Casnewydd. Y diwrnod wedyn, fe ymwelon nhw â’r ddinas gan gwrdd â Maer Casnewydd. Cawson nhw gyfle i ymweld â’r Felodrom a gwesty’r Celtic Manor cyn bowlio deg gyda’r hwyr. Fe aeth Gôl! â nhw, hefyd, i Ynys y Barri ac i weld eu tîm cenedlaethol yn hyfforddi cyn y gêm.

Mae Give a Baaka yn chwaraewyr brwd ac roedden nhw wedi ymfalchio wrth arwain eu gwlad i’r maes.
Rydym yn dod â 4 o blant amddifaid draw o Felgrad ar gyfer ein gêm nesaf ni yn erbyn Serbia ac rydym yn dibynnu ar eich cyfraniadau hael chi i alluogi hyn i ddigwydd. Plîs helpwch ar: www.justgiving.com/walesserbia

