Pleser oedd cael croesawu Ahmet, Milica, Andjela ac Elvis, plant amddifad o Serbia, i Gymru. Maen nhw heno yn bowlio ac yfory am ymweld a chastell Caerffili.

Fel y’ch chi’n gwybod erbyn hyn, mae’r plant amddifaid o Serbia wedi setlo mewn yng Nghaerdydd ac wedi bod yn brysur yn ymweld ag ystod eang o leoliadau diwyllianol a chael hwyl.
Mor belled, maen nhw wedi ymweld â Chastell Caerffili, Parc Treftadaeth y Rhondda, Sain Ffagan a wedi bod i fowlio deg, dringo ac ymarfer pêl-droed.

Ond yn fwy pwysig, aethon nhw i weld tîm Cymru yn hyfforddi heddiw gan dynnu lluniau ân harwyr ni. Roedden nhw wedi mopio â Bale, hyd yn oed y gofalwyr!
Ar y foment, maent yn gwylio eu tîm nhw yn hyfforddi cyn daith i Ynys y Barri fory, yna’r gêm fawr! Roedd Elvis yn honni y bydden nhw’n ennill os nad yw Bale yn chwarae!
Rydym yn dibynnu ar eich help chi: www.justgiving.com/walesserbia
