Gôl Cymru yn Azerbaijan – Yn ôl i Wlad y Tan!
Diwrnod cyn gêm Cymru yn erbyn Azerbaijan yn Baku, bu cynrychiolwyr Gôl yn brysur yn ymweld â dwy ganolfan blant yn y ddinas. Yn gyntaf, aethon ni i Ganolfan Wasanaeth Gyhoeddus #Rh2 yn Saray sef cartref preswyl i dros 160 o blant gyda anghenion arbennig. Cawson wledd o gerddoriaeth a dawns a chlywon am y ddarpariaeth unigol a grŵp, sesiynau therapi’r synhwyrau a’r ffocws ar ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol. Rhoddod Gôl gadeiriau arbennig fel bod y plant gyda pharlys yr ymennydd yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau.

Yn ail, ymwelon ni â Chanolfan Joy sy’n darparu cwrs o therapi dwys a gwaith ymaddasu i 100 o blant am 4 mis ar y tro. Ar y cwrs, mae’r plant yn datblygu sgiliau cymdeithasol, ieithyddol a sgiliau bywyd sylfaenol. Braint oedd cael gweld grŵp fach yn dysgu plannu hadau. Rhoddodd Gôl ddau gwpwrdd llawn teganau a gemau addysgiadol, carped i’r plant gael eistedd ar y llawr a llu o deganau meddal a chrysau-T Cymraeg.

Gôl Cymru yn Slofacia
Diwrnod ar ôl ein gêm yn erbyn Slofacia, ymwelodd grŵp o gynrychiolwyr elusen y cefnogwyr, Gôl Cymru, â Sanatoriwm Plant yn ardal Trnava. Mae’r ganolfan yn cynnig cymorth i blant rhwng 3 a 6 oed sy’n dioddef gyda phroblemau corfforol gyda rhodd o €500.
Cafwyd groeso mawr gan Gyfarwyddwraig y Ganolfan, Mrs. Zvonarova, a ddywedodd, “Mae’r rhodd ariannol yr un mor bwysig i ni a’r ffaith eich bod yn dangos i’r plant eich bod ch’n meddwl amdanynt. Rych chi’n rhoi gobaith iddynt y byddan nhw’n gallu teithio fel chi yn y dyfodol, ac mae hynny’n werth y byd.”

Yn ôl Thomas Griffiths, un o gynrychiolwyr Gôl Cymru, “Roeddem yn falch cael cyfle i weld y cyfleusterau a’r gofal mae’r plant yn ei dderbyn. Roedd y rhai bach i gyd yn gwenu sy’n dyst i waith caled y staff ymroddedig yno. Gobeithio y bydd ein cyfraniad yn eu cynothwyo i barhau gyda’u gwaith gwych.”
Diolch i Leigh James am drefnu’r parti ar ddiwrnod y gêm ac i bawb wnaeth gyfrannu at Gôl Cymru. Rydym yn dibynnu’n llwyr ar eich cyfraniadau hael. Ewch i www.justgiving.com/gol
Gôl yn Hwngari
Ar fore’r gêm rhwng Hwngari a Chymru, ymwelodd Gôl â chartref plant yn Menyeksce U yn ardal Buda gyda rhodd o £400. Mae Pwyllgor y Plant am wario’r arian ar gemau ac offer chwaraeon.

Mae’r cartref yn rhoi lloches ac addysg i blant rhwng 8 a 18 oed. Wrth gwrs, roedd rhaid cael gêm fach o bêl droed. Cawson hwyl wrth i’r plant ganu i ni a mwyheuon nhw geisio dweud ‘Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch’ a dysgu am Gymru.

Braf oedd cael bois EatSleepFootyRepeat gyda ni.

Rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar eich cyfraniadau hael. Ymelwch â www.justgiving.com/gol
Gôl yng Nghroatia
Diwrnod cyn gêm Croatia a Chymru, aeth cynrychiolwyr Gôl i ymweld â chartref plant yn Osijek gyda rhodd o werth £400 o docynnau Decathlon.

Yn ogystal â rhoi cartref i blant amddifad, mae’r lle’n darparu gweithgareddau addysg ac hamdden i blant dan anfantais. Mae pwyslais mawr ar ddefnyddio chwaraeon fel modd i integreiddio pobl ifanc i’r gymuned ac mae ganddyn nhw draddodiad o deithio’r wlad ac i wledydd eraill i gymryd rhan mewn cystadleuthau chwaraeon. Braf oedd clywed eu hanesion, treulio amser gyda’r plant ac yn bwysicaf oll, gwneud gwahaniaeth.

Rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar eich cyfraniadau hael. Ymelwch â www.justgiving.com/gol
Hefyd cyn gêm Croatia a Chymru, aeth tri o gynrychiolwyr Gôl (y tri o’r enw Kevin) i ymweld â chartref plant I fechgyn yn Zagreb gyda rhodd gwerth €400 o gemau PlayStation, crysau t, crysau pêl-droed a baneri.
Braf oedd cael rhannu ein stori, a chlywed am yr hyn y maen nhw’n ei wneud i helpu plant mewn angen.

